Amdano ▴
Pan ddaw galwad yr awen, cystadleuaeth neu ymryson am englyn neu gwpled, allwn ni byth fod yn sicr fod gennym gopi o'r Odliadur yn ein poced. Ond y dyddiau hyn, mae'n weddol sicr y bydd ein ffôn neu'r tabled wrth law. Diolch byth am yr Odliadur Digidol lle gallwn roi'r odl i mewn a chael rhes o ddewisiadau mewn amrantiad. Dyma declyn bach newydd i hybu creadigrwydd lle bynnag a phryd bynnag y daw'r alwad am odl.